CnV has been reincarnated at http://chocolateandvodka.com/ Please do not leave comments here - they will not be published.
Login
User name:
Password:
Remember me 
stalker gen

I've now permanently moved my blog over to http://chocolateandvodka.com/ and will no long be updating this version, other than with the occasional summary of new posts. Please do not leave comments here, but instead find the equivalent post on my new site, and comment there instead. Comments left here will not be published, as I'd like to keep things all together on the new installation. Sorry if this is an inconvenience.
View Article  Dydd Gwyl Dewi Sant hapus
Er, am ddoe.

Dyna'r cwbl. Dim byd arall.
View Article  Dim ond 63 ar ol! Only 63 left!
mensSgen i ddim ond 63 o grysau-T Cymraeg ar ôl nawr, felly, os dach chi'n fansio un, nawr yw'r amser i brynu! Mae 'na bump o gynllun efo'r slogans:
Mae'r famlong yn dod a dw i wedi pacio yn barod
Pa ran o [lol] dwyt ti'n deall?
Carwn i aros a sgwrsio, ond yn anffodus celwyddgi cymhellol dw i
Mae f'ysbiwyr wedi dweud wrtha popeth amdanat
logo Clwb Malu Cachu
Maen nhw'n costio £12.50 yr un, neu £7 am dwb lwcus sengl a £10 am dwb lwcus dwbl. Prynwch eich heddiw!


* ** *** ** *


womensI have only 63 Welsh t-shirts left now, so if you fancy one, now is the time to buy! There are five designs with the slogans:
Mae'r famlong yn dod a dw i wedi pacio yn barod (The mothership is coming and I'm packed already)
Pa ran o [jibyreg] dwyt ti'n deall? (Which part of [gibberish] don't you understand?)
Carwn i aros a sgwrsio, ond yn anffodus celwyddgi cymhellol dw i (I'd love to stop and chat, but unfortunately I'm a compulsive liar)
Mae f'ysbiwyr wedi dweud wrtha popeth amdanat (My spies have told me all about you)
Clwb Malu Cachu logo
They cost £12.50 each, or £7 for a single lucky dip and £10 for a double lucky dip. Buy yours now!

View Article  Chwarae teg
Mae Nic wedi dechrau defnyddio Flickr, ac mae popeth yn y Gymraeg. Lluniau neis iawn, Nic. Diolch am rannu!

Ond... Dw i newydd gweld oedd Nic yn arfer byw yn Cathays Terrace, c. 93. O'n i'n arfer byw yn Cathays Terrace, c. 93, hefyd. Spŵci.

View Article  Tagiau Technorati
Pan o'n i yn Boston, o'n i'n lwcus i gyfarfod â Dave Sifry o Technorati, ac o'n ni'n siarad am betha fel y tagiau newydd Technorati sy'n cael ei ddefnyddio ar flogiau i helpu bobl darganfod postiau am yr un pwnc (yn Technorati wrth gwrs). Roedd Dave yn dweud wrtha i am ddyn o Iwerddon sy wedi dechrau defnyddio'r tag 'Ireland' i helpu agregeitio postiau am y wlad.

Dw i'n meddwl syniad da iawn iawn yw o, felly hoffwn i awgrymu bod ni'n adoptio'r tag 'cymraeg' i helpu agregeitio postiau yn y Gymraeg yn Technorati. I wneud hyn, jyst defnyddiwch y côd 'ma:

<a href="http://technorati.com/tag/cymraeg" rel="tag">cymraeg</a>

sy'n edrych fel hyn pan mae'n cael ei ddefnyddio yn ffynhonnell y tudalen:

Wedyn byddwn ni'n gallu mynd i'r tudalen cymraeg Technorati i weld pwy eraill wedi bod yn blogio yn y Gymraeg. Yn anffodus, sdim fîd RSS ar hyn o bryd, a dach chi ddim yn gallu tanysgrifio i watchlist sy wedi cael ei greu o tag, ond mae 'na API nawr ac mae Kevin Marks wedi dweud wrtha i fod nhw'n gweithio ar y peth.

Os dach chi'n defnyddio Ecto i flogio, dach chi'n gallu creu tag HTML newydd mewn 'custom tags'; os dach chi'n defnyddio Wordpress, dyma plug-in gan Steph; neu dyma bookmarklet 'ma gan Oddiophile ar gyfer popeth arall.

Dw i wedi sgwennu mwy am dagiau ar Strange Attractor, ac mae Shelley wedi sgwennu erthygl da iawn iawn am y peth ar Burningbird.

UPDATE: Post arall am dagiau Technorati ac iaith ar Strange Attractor.
View Article  Ebost o bobl Draig
Ces i'r ebost 'ma heddiw. O'n i'n meddwl efallai bydd o'n cael diddordeb i chi gyd os dach chi'n defnyddio To Bach, neu eisiau defnyddio Windows yn y Gymraeg.
Annwyl Ddefnyddiwr To Bach,

Mae dros 6 mis wedi mynd heibio bellach ers i ni ryddhau’r gwasanaeth ‘To Bach’. Diolch i bawb sydd wedi’i lwytho i lawr ac wedi ymateb mor gadarnhaol iddo. Erbyn hyn, mae gennym dros 10,000 o ddefnyddwyr ym mhob cwr o Gymru ac mae nifer yn dal i'w lwytho i lawr bob dydd.

Rydym wedi bod yn brysur ers ei lansio haf diwethaf ac yn awyddus i roi gwybod i chi am rai o’r prosiectau Cymraeg cyffrous y buon ni’n ymwneud â nhw. Yn gyntaf, un o’r prosiectau amlycaf y buon ni’n gweithio arno hyd yn hyn fu’r gwaith wnaethon ni gyda Microsoft, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Cymen i gynhyrchu fersiwn Cymraeg Windows XP ac Office 2003. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect hwn a dolen i lwytho’r pecynnau rhyngwyneb iaith i lawr ar gael yn adran Windows Cymraeg ein gwefan.

Yn ail, fe gawson ni ein comisiynu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i ysgrifennu'r safonau ar gyfer meddalwedd Cymraeg a dwyieithog fel rhan o'u strategaeth TG gyffredinol ar gyfer yr iaith. Ar hyn o bryd, mae’r safonau hyn yn destun ymgynghori cyhoeddus ac os hoffech gyfrannu at hyn, neu gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i adran safonau ein gwefan.

Dim ond dau o blith nifer o brosiectau yw’r rhain a arweiniodd at dwf cyffrous y cwmni y llynedd, ac, erbyn hyn, rydym wedi agor swyddfa newydd yng Nghaerdydd i weithio gyda’n cleientau yn y De. Hefyd, mae llawer mwy o bethau ar y gweill ar gyfer 2005, gan gynnwys fersiwn newydd o’r ‘To Bach’ a lansio cynnyrch newydd sylweddol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.

Cofiwch gadw mewn cysylltiad â ni drwy anfon unrhyw awgrym neu gwestiwn sydd gennych. Os ydych chi’n ‘nabod unrhyw un a allai ddefnyddio’r ‘To Bach’, cofiwch ei fod ar gael am ddim oddi ar ein gwefan yn www.draig.co.uk/tobach. Hefyd, os hoffech gael gwybod am ein gwasanaethau datblygu meddalwedd neu am ein gwasanaeth ymgynghori ym maes TG, rhowch wybod i ni.

Petai’n well gennych gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio hon, rhowch wybod i ni drwy anfon ateb i’r e-bost hwn.

Cofion cynnes,

Tîm Draig
Iawn iawn, post tsîp, dw i'n gwybod. ;-)


View Article  Trio unwaith eto
Dw i jyst eisiau gwybod sut i greu podcast. Wedyn dw i'n gallu anghofio yn hollol am y peth.
1 Attachments
View Article  Nid y podcast Cymraeg cynta
Recordies i hwn ym mis Awst a dyma fo unwaith eto, fel podcast.

Scratch that, it didn't work. Need to figure this out. Will experiment further.
View Article  Syniad da iawn
Mae Pat wedi cael syniad da iawn iawn - podcastiau yn y Gymraeg! Athrylith ydy o. Felly dewch 'mlaen, recordiwch eich podcast nawr!
View Article  Wicipedia yn y wasg
Ar ôl cael cinio efo Jimmy Wales cwpl o weithiau llynedd, I ended up yn siarad â newyddiadurwr arlein o'r enw Robert Andrews. Mae o wedi sgwennu erthygl am yr Wicipedia Gymraeg a'i le mewn dyfodol yr iaith (mae'r erthygl yn yr Saesneg). Dw i'n teimlo tipyn bach fel fraud o achos dw i ddim wedi treulio digon o amser yn gweithio ar y Wicipedia rîli. O'n i eisiau trio annog pobl o Glwb Malu Cachu i gyfrannu i'r prosiect, ond mae distributed cyfiethu'n anodd i drefnu.

Ond dw i'n hapus i weld Wicipedia yn cael gwasg dda. Prosiect pwysig am yr iaith ydy o, dw i'n meddwl, felly os ti'n siarad Cymraeg, plîs meddwl am gyfrannu. Mae un erthygl am dy hoff fand yn well 'na dim byd o gwbl. Dw i'n meddwl am sgwennu am rywbeth mwy gyfarwydd i fi, fel blogio neu llyfrau. Dim byd fawr, jyst petha bach. Efallai dw i'n gallu repurpose petha o'r wefan CMC? Bydda i ddim yn poeni am safon fy iaith - mae rhywun arall yn gallu fy nghywiro fi. Beth bynnag, bydda i'n trio.

(Summary: I was interviewed last year by Robert Andrews about the Welsh Wikipedia. You can read the resulting article on PingWales. I really do need to work more on the Welsh Wikipedia - maybe I'll try to repurpose some of the content from CMC.)
View Article  Ni Yw Y Byd
Mae Gruff Rhys wedi mynd yn 'solo' efo sengl newydd o'r enw Ni Yw Y Byd, sy'n allan ar 19 Ionawr, ac albwm newydd o'r enw Yr Atal Genhedlaeth sy'n cael ei rhyddhau ar 24 Ionawr.

Mae Lauren Lavern newydd chwarae Ni Yw Y Byd ar XFM, a gofynodd hi am farnau y gwrandawyr. Mae'n ymddangos fel bod y mwyafrif ddim yn hoffi'r tiwn llawer. Dwedodd hi roedd 'na ormod o regi mewn negeseon y gwrandawyr i'w ddarllen nhw ar y radio.

Fi... wel, a dweud y gwir, dw i ddim yn siwr am y tiwn 'ma. Mae'n tipyn bach rhy... wn i ddim... 80s, efallai. Mae'n swnio 'naïve' imi, efo chord changes sy'n rhy amlwg, fel rhywbeth sy'n cael ei sgwennu gan plentyn. Ond, dw i'n hapus yn fawr iawn fod Gruff yn sgwennu yn y Gymraeg unwaith eto. Dw i'n caru Mwng, felly gobeithio bydd yr albwm yn tyfu arna i.

Mwy o wybodaeth o Hall or Nothing, ICWales a XFM.
View Article  Clwb Malu Cachu back up
Due to some sort of spooky hosting weirdness, all top level pages on CMC were somehow mysteriously deleted. I've put them all back now, but if you find a page that's still missing, please email me directly.

Meantime, please buy a t-shirt. At only £7.50 they're cheap as chips and incomprehensible to the majority of the world's population. But hey, that makes them fun, right?

Ac yn y Gymraeg: Mae CMC yn ôl. Prynwch crysau-t. Paid â bod yn ddrwg. Carwch eich mam. Defnyddiwch yr iaith efo pobl sy ddim yn deallt. A phaid â anghofio ymolchi tu ôl i'ch clustiau.
View Article  Wicipedia Cymraeg - pwysig iawn ar gyfer yr iaith
O'n i'n siarad â Joi Ito am Wicipedia - y gwyddoniadur arlein - pan penderfynodd o i fy nghyflwyno fi i'i ffrind di, Elian, sy'n gweithio ar Wicipedia yn yr Almaeneg. Maen nhw gyda'i gilydd wedi fy mherswadio fi i dechrau helpu efo'r Wicipedia Cymraeg.

Dw i ddim wedi defnyddio Wicipedia yn aml, ond gwylies i'r ddadl diddorol sy'n cael ei dechrau gan Horst Prillinger. Dydy Horst ddim yn hoffi'r ffaith fod yr Wicipedia'n agor i abuse gan pobl sy ddim yn gwybod eu pwnc yn iawn. Ac dw i'n gallu gweld ei bwynt fo - sdim guarantee fod yr erthyglau yn yr Wicipedia'n cywir.

Ond, meddylwch am funud. Ble gallwch chi ffeindio ffynhonnell gwybodaeth sy'n cywir yn hollol? Dydy'r Encyclopaedia Britannica ddim yn gywir bob amser - mae'n allan o ddyddiad cyn cafodd o ei gyhoeddi. Ac efo'r newid yn y ffordd bod ni'n meddwl am pa fath o ffynhonnell yn ddibynadwy - dydy'r papurau newyddion neu'r teledu ddim yn ddibynadwy bellach - dw i wedi meddwl fod mae'r Wicipedia'n ffurf da iawn am gasglu a rhannu gwybodaeth. Ac mae'n ar gael rhad ac am ddim, i bawb, ym mhobman.

Wrth gwrs, dydy Wicipedia ddim unieithog. Mae 'na lawer o fersiwnau mewn llawer o ieithoedd, yn gynnwys y Gymraeg, ac mae'n posib i cross-reference erthyglau rhwng ieithoedd. Er enghraifft, dechreues i gyfieithu'r tudalen am Joi, jyst i gael tipyn o ymarfer, ac mae'r un tudalen yn ar gael yn Pwyleg, Japaneg, Saesneg a nawr mae'r rhan cynta'n ar gael yn y Gymraeg. (Ond rhaid imi, neu rhywun arall, gorffen cyfieithu, ac mae rhaid rhywun sy'n mwy rugl 'na fi golygu'r peth.)

Mae'r we yn bwysig iawn am yr hen iaith. Dyma'r rheswm pan dechreues i Glwb Malu Cachu a Get Fluent, ond dw i'n meddwl fod yr Wicipedia Cymraeg yn mwy pwysig 'na unrhywbeth dw i wedi gwneud. Mae 'na gymuned o bobl sy'n gweithio ar yr Wicipedia Cymraeg yn barod, ond mae 'na lawer o betha dal i sgwennu. Felly, pam lai ymaelodiwch â fi, a nhw, a helpu'r iaith trwy estyn yr Wicipedia Cymraeg.
View Article  Lol Lwlw
Mae fy ffrind Lwlw newydd dechrau blog, Lol Lwlw, (dyma'r ffîd Atom. Mae Lwlw wedi bod yn dysgu Cymraeg ers sbel, a dw i'n meddwl ei bod hi'n cwl iawn am ddechrau blog. Dw i'n meddwl fod defnyddio eich iaith newydd bob dydd yw'r unig ffordd i ddod yn rhugl.

Rhaid imi sgwennu mwy, 'te. ;-)

Beth bynnag, da iawn Lwlw. Dw i'n falch ohonat ti!
View Article  Be' i wneud?
Be' i wneud efo'r blogosffer Cyrmaeg? Sori am manglo'r iaith.

View Article  Catch 22
Dw i'm yn sgwennu yn Gymraeg, felly dw i'm yn meddwl yn Gymraeg, felly dw i'm yn sgwennu yn Gymreag.

Mae gen i lyfr: Pwy Sy'n Cofio Siôn gan Mair Evans. Mae'n dda iawn - dw i'n mwynhau sgwennu Mair - ond dw i'n wedi bod yn trio darllen y peth ers tro. Dw i'n darllen tipyn, ond wedyn dw i'n cael fy sylw'n tynnu gan rhywbeth ac anghofio be' dw i wedi darllen, felly rhaid imi fynd 'nôl i ailddarllen bennod neu dau. Gwaith araf ydy e, ond rhaid imi ddarllen mwy - sai fo'n helpu efo'r sgwennu, mae'n siwr.
Support the Open Rights Group



Search