Dw i wedi bod yn meddwl llawer am flogio yn ddiweddar. Yn arbennig y Blogosffêr Cymraeg a sut mae blogiau'n gallu helpu hybu a chefnogi'r iaith. Dwi wedi bod yn siarad â phobl yn BlogTalk am flogio yn ddwyieithog, ac dw i'n siwr sai blogiau'n bod yn dda iawn am yr iaith Cymraeg - jyst rhaid ini ddarganfod ffwrdd i 'evangelise' blogiau i'r pobl pwysig. Rhaid ini perswadio pobl fel Dafydd Iwan neu Huw Edwards neu Gruff Rhys neu Gareth King i ddechrau blogs yn Gymraeg.
Dechreues i CMC ar fy mhen fy hun, ond dw i ddim yn gallu gwneud hyn fel 'ny. Rhaid i chi roi help imi - beth yw eich syniadau? Pwy dach chi eisiau gweld yn blogio? A sut sen ni'n eu hannog nhw i ddechrau blogio? Plîs gadewch eich sylwadiau yma. Rhaid ini, yr 'early adopters', dangos y ffordd ymlaen i siaradwyr Cymraeg eraill.
Mae'n hen bryd fod yr iaith Cymraeg yn dechrau defnyddio'r we lot mwy am ei datblygu.
|
||||||
|
Login
stalker gen
![]() I've now permanently moved my blog over to http://chocolateandvodka.com/ and will no long be updating this version, other than with the occasional summary of new posts. Please do not leave comments here, but instead find the equivalent post on my new site, and comment there instead. Comments left here will not be published, as I'd like to keep things all together on the new installation. Sorry if this is an inconvenience. |
Y Blogosffer Cymraeg
by
Suw Charman
on Wed 14 Jul 2004 07:36 PM BST | Permanent Link
Comments
Re: Y Blogosffer Cymraeg
by
Nic Dafis
on Sat 24 Jul 2004 03:42 PM BST | Profile | Permanent Link
Byddai blog gan unrhyw un o'r rhai ti'n sôn amdanyn yn wych o beth. Beth am Twm Morys?
Re: Re: Y Blogosffer Cymraeg
by
Suw Charman
on Tue 27 Jul 2004 10:38 PM BST | Profile | Permanent Link
Sai hynny'n wych, mae'n siwr. Ti ddim yn nabod Twm, on nag wyt? Hm, beth am Ifor ap Glyn?
Re: Y Blogosffer Cymraeg
by
Anonymous
on Thu 29 Jul 2004 05:39 PM BST | Permanent Link
Ie, mi fuasai blog o'r fath yn wych. Faswn i wrth y modd mynd mewn i ben Twm Morys! Falla fasa un gan Marc Evans yn ddiddorol.
Dyma un arall i ychwanegu at y blogosffer: http://pictiwrs.com Blog grwp yn canolbwyntio ar ffilm (adolygiadau, gwefannau ac ati). Re: Y Blogosffer Cymraeg
by
Anonymous
on Sun 08 Aug 2004 11:52 AM BST | Permanent Link
Mae Simon Brooks yn gweld posibilirwydd o flogio ac y rhithfro - gofynodd ef wrth nic, aran a finnau 'sgryfennu am y We Cymraeg i bARN- efallai byddai'n derbyn erthygl "ble mae blogwyr enwog Cymraeg?" oddi wrthot ti Siw? arloeswraig y "we cymraeg annibynnol" oddet ti wedi'r cwbl.
Dyma gwpl o lleoedd i ddechrau ymchwilio'r fath o flog gan enwogion sydd ar gael yn Saesneg. http://www.billyhayes.co.uk/ http://www.guardian.co.uk/uk_news/story/0,3604,1264629,00.html?=rss Re: Re: Y Blogosffer Cymraeg
by
Suw Charman
on Sun 08 Aug 2004 04:23 PM BST | Profile | Permanent Link
Swn i'n hapus i sgwennu am y blogosffer a'r blogosffer cymraeg ar gyfer, wel, Barn neu unrhywun. Os mae 'na rywun i cywiro fy nghymraeg. ;-) diolch am y lincs. :D
Dw i'n dal i feddwl am sut i gael myw o bobl cymraeg yn blogio. gobeithio bydd gen i newyddion am hynny cyn bo hir. os sgen ti unrhyw syniadau, swn i hapus i'w glwyed nhw. |
|||||
