Dwi'm wedi bod blogio lots yn Gymraeg ar fy mlog CMC. Mae 'na lawer o reswm am hynny:
a) Dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith a dw i'n teimlo typin bach self-conscious yn defnyddio llawer o anglicisms ac yn ffycio i fyny idiomau. Sgen i ddim amser i gywiro popeth efo geiriadur
b) Dw i'n camdreiglo. Mae'n ddrwg gen i.
c) Dw i'm yn teimlo fel sgwennu popeth yn dwyieithog ac dw i ddim yn gwneud lot efo iaith Gymraeg ar hyn o bryd.
Ond, pan o'n i yn BlogTalk, o'n ni'n siarad â Steph, sy'n blogio yn Ffrangeg a Saesneg ar ei blog, Climb To The Stars. Felly dw i wedi penderfynu i trio experiment a thrio blogio yn Gymraeg a Saesneg. Mae 'na category arbennig am petha Cymraeg a gobeithio bydd hynny'n fy helpu pobl yn ffeindio'r negeseon Cymraeg heb cluttering i fyny'r tudalen ffrynt gormod am y pobl sy ddim yn siarad Cymraeg.
Plîs dwedwch wrtha i beth dach chi'n meddwl. Dw i eisiau gwybod.
|
||||||
|
Login
stalker gen
![]() I've now permanently moved my blog over to http://chocolateandvodka.com/ and will no long be updating this version, other than with the occasional summary of new posts. Please do not leave comments here, but instead find the equivalent post on my new site, and comment there instead. Comments left here will not be published, as I'd like to keep things all together on the new installation. Sorry if this is an inconvenience. |
Blogio yn Gymraeg
by
Suw Charman
on Sat 10 Jul 2004 01:22 PM BST | Permanent Link
Comments
Re: Blogio yn Gymraeg
by
Anonymous
on Sat 10 Jul 2004 06:54 PM BST | Permanent Link
Haia Suw,
Iei! Blogio yn Gymraeg. Mae angen rhywun arall i adio at y pedwar ohono ni! Ma'n gret bod ti wedi ail ddechrau (ac o leiaf fydd gen ti un darllenwr!) , fyddai efo diddordeb gweld sut wyt ti'n handlo fo, dwi di bod yn meddwl ar adegau gwneud un fi yn ddwy-ieithog ond mae'n swnio fel gormod o waith, gan bod fi'n trio gwario cyn lleieid o amser ar y blog a phosib. Dwi wedi cael new look ar y blog hefyd gyda llaw, so neidia dra i Rwdls am olwg. Pob hwyl, a phaid poeni am dy Gymraeg, mae o'n gret. Rhods Re: Re: Blogio yn Gymraeg
by
Suw Charman
on Sun 11 Jul 2004 12:41 PM BST | Profile | Permanent Link
Hei Rhods! Diolch yn fawr iawn am dy sylw di.
Dw i'n teimlo hapus mod i wedi ailddechrau blogio yn gymraeg unwaith eto, ond dw i'n poeni am be' i ddweud. Dw i'm yn *meddwl* yn gymraeg y dyddiau 'ma, felly rhaid imi newid fy standpoint, timod? Eniwei, mae dy flog yn edrych yn dda iawn. Ti wedi gwneud gwaith da. ;-) Re: Blogio yn Gymraeg
by
Nic Dafis
on Sat 24 Jul 2004 03:51 PM BST | Profile | Permanent Link
a) Dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith..
Perffaith, schmerffaith. Sut mae gwella heb ymarfer? b) Dw i'n camdreiglo. Mae'n ddrwg gen i. Gwell camdreiglo gan ddysgwr o flogwr na threiglo perffaith gan Cymro di-flog. c) Dw i'm yn teimlo fel sgwennu popeth yn dwyieithog ac dw i ddim yn gwneud lot efo iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Ti'n wneud mwy na 95% o'r 500,000 sy'n ei siarad fel iaith gyntaf. Dal ati, 'chan. Re: Re: Blogio yn Gymraeg
by
Nic Dafis
on Sat 24 Jul 2004 03:52 PM BST | Profile | Permanent Link
... gan Cymro di-flog...
Ai rest mai cês. Re: Re: Blogio yn Gymraeg
by
Suw Charman
on Tue 27 Jul 2004 10:49 PM BST | Profile | Permanent Link
Aw, diolch Nic. Tria i flogio mwy... hell, dw i *yn* blogio mwy, mwy na mis diweddar. ;-)
|
|||||
