Just asking my Welsh speaking readers what books they are reading at the moment.

Diolch i bawb sy wedi gadael sylw awdio ar fy mhost diwetha. Dw i'n hoffi gwrando i bobl yn siarad yn y Gymraeg, felly dw i'n mynd i ofyn cwestiwn newydd heddiw.


powered by ODEO

Dw i newydd gorffen tri lyfr gan Bethan Gwanas - Bywyd Blodwen Jones, Blodwen Jones a'r Aderyn Prin, a Tri Chynnig i Blodwen Jones. Dw i'n eu mwynhau nhw yn fawr iawn. Ysgrifennwraig dda iawn yw Bethan Gwanas. Mae'r llyfrau 'ma yn ddoniol, difyr a haws i ddarllen. Yn anffodus, dw i'n meddwl bod diwedd yr ail a'r trydydd llyfrau yn siomedig, achos maen nhw'n tipyn bach gwan. Dw i'n hoffi gweld y prif gymeriadau yn datblygu trwy'r hanes, ond dydy Blodwen neu ei chariad hi ddim. Ond, swn i'n cymeradwyo'r llyfrau 'ma yn hollol.

Felly, be' dach chi'n darllen ar hyn o bryd?

Send Me A Message

Os dach chi eisiau gadael sylw, mae 'na gwpl o bethau i gofio:
- siaradwch yn araf ac yn glir
- gadewch eich enw chi
- sgwennwch disgrifiad byr i helpu gwrandawyr deall be' dach chi wedi dweud

Iawn! I ffwrdd â ni!

ATEBION

Y sylw Odeo cynta gan Neil, efo ei ddisgrifiad bach. Diolch Neil!


powered by ODEO

"Dwi’n dweud ychydig am lyfr o’r enw ‘Ysbryd y lle hwn’ gan Mair Evans, llyfr dwi newydd cychwyn, felly wna i ddweud mwy amdanhi ar ol ei gorffen."