1. Gwyliwch teledu efo S4C
Mae 'na lawer o raglenni teledu ar gael ar wefan S4C nawr. Dach chi'n strîmio 4 Wal, Chez Dudley, a Natur Anghyfreithlon, a lot o betha eraill. Yn anffodus, does 'na ddim is-deitlau, sydd poen yn y din amdani i (achos dw i ddim deallt unrhywbeth fod Dudley'n dweud.)

2. Chwyliwch y we efo Google
Dach chi'n teimlo'n lwcus?

3. Grwandwch ar Radio Cymru
Os dach chi'n hoffi pethau fel 'ny.

4. Crewch gwystl efo Pledgebank
Fel mae'r wefan yn dweud: Dwedwch wrth y byd “Fe wna i, ond dim ond os wnewch chi helpu”.

5. Darllenwch blogiau
Mae 'na lawer o flogiau Cymreag ar gael ar y we. Mae Nic Dafis yn sgwennu Morfablog, un o'r blogiau cynta Cymraeg - mae'n bendigedig.

6. Gwyliwch fideo ar YouTube
Mae 'na betha dda yn Gymraeg ar YouTube. Dw i'n hoffi fideos NeilWyn.

7. Ysgrifennwch erthyglau ar gyfer Wicipedia
Mae 'na 5,932 o erthyglau yn y fersiwn Cymraeg ar hyn o bryd, ac maen nhw eisiau eich help chi.

8. Trafodwch petha ar Maes-E
Llawer o sgwrs a llawer o bobl. Be' mwy dach chi eisiau?

9. Llawrlwytho meddalwedd Cymraeg
O Opera i OpenOffice i Linux neu Ubunto.

10. Chwyliwch a defnyddio Del.icio.us yn y Gymraeg
Mae 'na lawer o petha arlein yn Gymraeg. Crewch dalen-nodyn yn defnyddio Del.icio.us neu Furl, neu pori'r dolennau.