Dw i'n meddwl syniad da iawn iawn yw o, felly hoffwn i awgrymu bod ni'n adoptio'r tag 'cymraeg' i helpu agregeitio postiau yn y Gymraeg yn Technorati. I wneud hyn, jyst defnyddiwch y côd 'ma:
<a href="http://technorati.com/tag/cymraeg" rel="tag">cymraeg</a>
sy'n edrych fel hyn pan mae'n cael ei ddefnyddio yn ffynhonnell y tudalen: cymraeg
Wedyn byddwn ni'n gallu mynd i'r tudalen cymraeg Technorati i weld pwy eraill wedi bod yn blogio yn y Gymraeg. Yn anffodus, sdim fîd RSS ar hyn o bryd, a dach chi ddim yn gallu tanysgrifio i watchlist sy wedi cael ei greu o tag, ond mae 'na API nawr ac mae Kevin Marks wedi dweud wrtha i fod nhw'n gweithio ar y peth.
Os dach chi'n defnyddio Ecto i flogio, dach chi'n gallu creu tag HTML newydd mewn 'custom tags'; os dach chi'n defnyddio Wordpress, dyma plug-in gan Steph; neu dyma bookmarklet 'ma gan Oddiophile ar gyfer popeth arall.
Dw i wedi sgwennu mwy am dagiau ar Strange Attractor, ac mae Shelley wedi sgwennu erthygl da iawn iawn am y peth ar Burningbird.
UPDATE: Post arall am dagiau Technorati ac iaith ar Strange Attractor.

