CnV has been reincarnated at http://chocolateandvodka.com/ Please do not leave comments here - they will not be published.
Login
User name:
Password:
Remember me 
stalker gen

I've now permanently moved my blog over to http://chocolateandvodka.com/ and will no long be updating this version, other than with the occasional summary of new posts. Please do not leave comments here, but instead find the equivalent post on my new site, and comment there instead. Comments left here will not be published, as I'd like to keep things all together on the new installation. Sorry if this is an inconvenience.
View Article  Tip bach am Firefox
Os dach chi'n defnyddio'r porwr Firefox - ac os dach chi ddim, pam ddim?! - ac dach chi eisiau gweld popeth sydd yn Gymraeg yn Gymraeg, rhaid i chi newid eich blaenoriaethau iaith i Gymraeg. Ewch i 'Preferences', wedyn 'Advanced' a chlicio ar y tab 'General' ac ar waelod y tudalen byddwch chi'n gweld adran 'Languages'. Cliciwch 'Choose', wedyn 'Select a language to add', scrolio i lawr i 'Welsh', a chlicio 'Add'. Dewisiwch 'Welsh' yn y restr a chlicio 'Move Up' nes fod fo ar ben. Wedyn, cliciwch 'OK'.

Nawr, pan dach chi'n mynd i Google, byddwch chi'n gweld y dudalen yn y Gymreag, heb rhaid newid eich blaenoriaethau chi yn Google ei hun.

Nodyn: Dw i'n defnyddio Mac, felly efallai mae'n wahanol ar PC.


If you use the browser Firefox - and if you don't, why not?! - and you want to see everything that's in Welsh in Welsh, you need to change your language preferences to Welsh. Go to 'Preferences', then 'Advanced' and click the 'General' tab and at the bottom of the page you will see the 'Languages' section. Click 'Choose', then 'Select a language to add', scroll down to 'Welsh' and click 'Add'. Choose 'Welsh' in the list and click 'Move Up' until it's at the top. Then click 'OK'.

Now, when you go to Google, you will see the page in Welsh without having to change your preferences in Google itself.

Note: I use a Mac, so it might be different on a PC.
View Article  Siarad yn Gymraeg efo Twitter
Dw i wedi bod defnyddio Twitter ers sbel nawr, yn y Saesneg, ac dw i'n ei garu fo. Wefan siml ac hwyl ydy o, ble dw i'n gallu dweud wrth y byd be' dw i'n gwneud. Medra i siarad â phobl hefyd - mewn 140 llythrennau neu llai. Mae 'na wasanaeth tecstio, felly medrwch chi ddanfon negeseuon trwy eich ffôn symudol.

Ond, mae 'na broblem bach efo fi. Dw i eisiau siarad Cymraeg, ac dw i wedi creu persona Cymraeg, ond mae neb arall yna sy'n siarad yr Hen Iaith.

Dewch chwarae efo fi! Hwyl bydd o!
View Article  Deg o bethau i wneud yn Gymreg ar y we
1. Gwyliwch teledu efo S4C
Mae 'na lawer o raglenni teledu ar gael ar wefan S4C nawr. Dach chi'n strîmio 4 Wal, Chez Dudley, a Natur Anghyfreithlon, a lot o betha eraill. Yn anffodus, does 'na ddim is-deitlau, sydd poen yn y din amdani i (achos dw i ddim deallt unrhywbeth fod Dudley'n dweud.)

2. Chwyliwch y we efo Google
Dach chi'n teimlo'n lwcus?

3. Grwandwch ar Radio Cymru
Os dach chi'n hoffi pethau fel 'ny.

4. Crewch gwystl efo Pledgebank
Fel mae'r wefan yn dweud: Dwedwch wrth y byd “Fe wna i, ond dim ond os wnewch chi helpu”.

5. Darllenwch blogiau
Mae 'na lawer o flogiau Cymreag ar gael ar y we. Mae Nic Dafis yn sgwennu Morfablog, un o'r blogiau cynta Cymraeg - mae'n bendigedig.

6. Gwyliwch fideo ar YouTube
Mae 'na betha dda yn Gymraeg ar YouTube. Dw i'n hoffi fideos NeilWyn.

7. Ysgrifennwch erthyglau ar gyfer Wicipedia
Mae 'na 5,932 o erthyglau yn y fersiwn Cymraeg ar hyn o bryd, ac maen nhw eisiau eich help chi.

8. Trafodwch petha ar Maes-E
Llawer o sgwrs a llawer o bobl. Be' mwy dach chi eisiau?

9. Llawrlwytho meddalwedd Cymraeg
O Opera i OpenOffice i Linux neu Ubunto.

10. Chwyliwch a defnyddio Del.icio.us yn y Gymraeg
Mae 'na lawer o petha arlein yn Gymraeg. Crewch dalen-nodyn yn defnyddio Del.icio.us neu Furl, neu pori'r dolennau.
View Article  Be' dach chi'n darllen ar hyn o bryd?
Just asking my Welsh speaking readers what books they are reading at the moment.

Diolch i bawb sy wedi gadael sylw awdio ar fy mhost diwetha. Dw i'n hoffi gwrando i bobl yn siarad yn y Gymraeg, felly dw i'n mynd i ofyn cwestiwn newydd heddiw.


powered by ODEO

Dw i newydd gorffen tri lyfr gan Bethan Gwanas - Bywyd Blodwen Jones, Blodwen Jones a'r Aderyn Prin, a Tri Chynnig i Blodwen Jones. Dw i'n eu mwynhau nhw yn fawr iawn. Ysgrifennwraig dda iawn yw Bethan Gwanas. Mae'r llyfrau 'ma yn ddoniol, difyr a haws i ddarllen. Yn anffodus, dw i'n meddwl bod diwedd yr ail a'r trydydd llyfrau yn siomedig, achos maen nhw'n tipyn bach gwan. Dw i'n hoffi gweld y prif gymeriadau yn datblygu trwy'r hanes, ond dydy Blodwen neu ei chariad hi ddim. Ond, swn i'n cymeradwyo'r llyfrau 'ma yn hollol.

Felly, be' dach chi'n darllen ar hyn o bryd?

Send Me A Message

Os dach chi eisiau gadael sylw, mae 'na gwpl o bethau i gofio:
- siaradwch yn araf ac yn glir
- gadewch eich enw chi
- sgwennwch disgrifiad byr i helpu gwrandawyr deall be' dach chi wedi dweud

Iawn! I ffwrdd â ni!

ATEBION

Y sylw Odeo cynta gan Neil, efo ei ddisgrifiad bach. Diolch Neil!


powered by ODEO

"Dwi’n dweud ychydig am lyfr o’r enw ‘Ysbryd y lle hwn’ gan Mair Evans, llyfr dwi newydd cychwyn, felly wna i ddweud mwy amdanhi ar ol ei gorffen."
View Article  Ble dach chi eisiau mynd ar wyliau?
I'm here asking Welsh speakers where they want to go, or where they have been, on holiday. The idea is that people will then leave me Odeo comments telling me what their holiday plans are.


Dw i eisiau defnyddio fy Nghymraeg i mwy yn aml, felly dw i wedi bod meddwl am rywbeth bod Tom Coates wedi gwneud efo Odeo ar ei flog. Dw i eisiau clywed mwy o Gymraeg ar y we hefyd, felly bydda i'n mynd i ddefnyddio fy mlog i ac Odeo i ofyn cwestiynau i chi i gyd, a medrwch chi ddefnyddio Odeo i ateb. Syniad da, on dydy?

(Wrth gwrs, dydy fy Nghymraeg ddim yn perffaith, felly rhaid i chi fy maddu i fy nghamgymeriadau! A bydda i'n eich maddu chi!)

Y cwestiwn heddiw yw:

Ble aethoch chi (neu ewch chi) ar wyliau? Gwrandwch isod i'r holl cwestiwn.


powered by ODEO

Os dach chi eisiau gadael ateb, jyst clicio ar y botwm isod a byddwch chi'n mynd i Odeo. Yna medrwch chi recordio ateb bach. Wedyn, bydda i'n casglu'r atebion a'u chyhoeddi nhw yma.

Send Me A Message

Atebion:

Gan Cod:


powered by ODEO

A gan Dave:


powered by ODEO

Wrth gwrs, dw i newydd cofio fod yr Eisteddfod yn digwydd yr wythnos 'ma, felly efallai bydd mwy o bobl yn ateb wythnos nesa.

Ac ateb gan Rhodri Nwdls (dw i'n meddwl).


powered by ODEO

Diolch i bawb! Os dach chi eisiau rhoi adysgrifiad neu cyfieithiad yn y comments, sai hynny'n da.

20 Awst: Un arall gan Rob. Diolch Rob. Mae Odeo yn gweithio mewn rhan - mae 'na ran ar goll, a seiniau od ar ganol. Sgen i ddim syniad be' sy wedi digwydd.


powered by ODEO

"Gair neu ddwy am ein gwyliau yn Northumberland," gan Neil.


powered by ODEO

Ac un bach gan Tom, o'r Inner Temple.


powered by ODEO

Diolch i Nic, o Morfablog.


powered by ODEO
View Article  Darllen mwy
Dw i newydd ddechrau darllen mwy. Mae gen i lyfr gan Mair Evans, o'r enw Pwy Sy'n Cofio Siôn, a dw i wedi darllen hanner y peth yn barod. Rhodd Mair y llyfr imi yn ystod 2002, ond dw i erioed wedi ei orffen fo. Bryd 'ny, o'n i'n arfer darllen yn araf iawn - o'n i'n edrych am airiau yn y geiriadur trwy'r amser. O'n i angen hanner awr i ddarllen un pennod. Nawr, medda i ddarllen un pennod mewn munudau.

Mae hynny'n fy synnu fi, achos dw i ddim yn defnyddio fy Nghymraeg yn aml, felly o'n i'n meddwl fy mod i'n ei cholli hi. Dw i ddim yn darllen llawer; dw i ddim yn sgwennu llawer. Weithiau, dw i'n mynd i Freenode a chael sgwrs yn #cym, ond dw i'n byw yn Saesneg nawr. Ond, mae'n ymddangos fy mod i wedi cadw'r iaith yn dda. (Wel, da-ish.)

Mwy na hynny, dw i wedi gwella. Dw i'n mwynhau darllen Pwy Sy'n Cofio Siôn, achos dw i'n gallu darllen yn gyflym. Ie, rhaid imi ddefnydio'r geiriadur o bryd i'w gilydd, ond nid fel gynt. Os dw i ar y tiŵb, dw i ddim yn poeni am wybod bob gair, dw i'n jyst dyfalu.

Gobeithio, bydd hynny'n meddwl y bydda i'n darllen llawer mwy. Ac os dw i'n darllen mwy, byddda i'n sgwennu mwy hefyd.
View Article  Ankst ar lein
Mae'n ymddangos fod Ankst Music wedi rhoi eu catalog ar lein. Ces i ebost o Emyr Angst sy'n dweud "Ma hi bellach yn bosib llawrlwytho y teitlau isod trwy y prif wasanaethau cerddoriaeth digidol."

Yn anffodus, rhaid i ti logio i mewn i'r mywafrif o wasanaethau cerddoriaeth cyn ti'n gallu pori, a nid aelod ydw i, felly dw i ddim yn gwybod pa wasanaethau ydy gwerthu cerddoriaeth Ankst. Ond dw i'n defnyddio iTunes (mae'n ddrwg iawn gen i, Dduw - paid â lladd unrhyw cathod bach plîs) felly medra i bori'r iTunes Music Store a dw i'n gallu dweud bod 'na draciau MC Mabon yna, a Zabrinski, a Datblygu, i lawrlwytho. Wrth gwrs, fydda i ddim o achos fydda i ddim yn defnyddio gwasanaeth sy'n defnyddio DRM i griplo fy ngherddoriaeth fi.

Efallai bydda i'n cael mwy o lwc efo eMusic. Maen nhw'n gwerthu MP3s heb DRM. Gwych!

Dyma'r rhestr cerddoriaeth Ankst sydd ar gael yn digidol:

ANKSTMUSIKCD086 1985-1995 Datblygu
ANKST111 Wyau / Pyst / Libertino Datblygu
ANKST CD078 Blow Winds Blow David Wrench
ANKSTMUSIK CD091 All Behind The Witchtower Ectogram
ANKST 115 Electric Deckchair Ectogram
ANKST CD079 Eliot's Violet Hour Ectogram
ANKSTCD069 I Can't Believe It's Not Reggae! Ectogram
ANKST CD 063 Spoonicon EP Ectogram
ANKST CD100 Tall Things Falling Ectogram
ANKST116 Y Lleill - The Others Ectogram /John Reynolds /Rhian Green
ANKST029CD Rhiniog Geraint Jarman A'r Cynganeddwyr
ANKST105 Yn Fyw 1977 - 1981 Live Geraint Jarman A'r Cynganeddwyr
ANKST103 Sounds Of Nant Y Benglog John Lawrence / Infinity Chimps
ANKSTMUSIK CD 09 Hip-Dub Reggae-Hop 1985-2000 Llwybr Llaethog
ANKSTCD 065 MAD! Llwybr Llaethog
ANKSTMUSIKCD092 Mr Blaidd MC Mabon
ANKST CD 104 Nia Non MC Mabon
ANKSTMUSIC CD098 The Hunt For Meaning MC Mabon
ANKST CD071 Bukowski Rheinallt H. Rowlands
ANKSTMUSIKCD085 Hendaid Brân A Straeon Eraill Rheinallt H. Rowlands
ANKSTMUSIKCD095 Rheinallt III Rheinallt H. Rowlands
ANKST CD073 Arch Noa EP Topper
ANKST CD080 Something To Tell Her Topper
ANKSTMUSIK CD090 E.P. Toys Tystion
ANKSTMUSIKCD093 Hen Gelwydd Prydain Newydd (New Britain's Old Lies) Tystion
ANKSTMUSIKCD088 Shrug Off Ya Complex Tystion
ANKSTMUSIKCD089 Croeso '99 Various Artists
ANKST CD 101 Freckles E.P. Wendykurk
ANKST 109 Soft Meat Wendykurk
ANKST 110 Executive Decision Zabrinski
ANKST113 Ill Gotten Game Zabrinski
ANKST 106 Koala Ko-Ordination Zabrinski
ANKST CD99 Yeti Zabrinski
View Article  Be sy'n digwydd ar y We Gymraeg?
O'n i'n meddwl am yr iaith Gymraeg wythnos diwetha. O'n i'n siarad â'r pobl Global Voices, ac o'n i'n mwddwl bod rhaid inni wneud mwy efo'r we ar gyfer iaith. Ond dwi'm yn gwybod beth sydd ar gael nawr. Felly dw i wedi dechrau tudalen newydd ar fy wici CMC i gasglu gwefannau defynddiol i siaradwyr Cymraeg. Plîs golygwch!

(Nodyn: Mae'r wici'n agor, felly sdim rhaid i logio i fewn.)
View Article  Be' dw i eisiau gweld
Salsa Cymraeg.

Wel, nid gweld, per se - dw i ddim eisiau gweld tomatos wedi cael eu torri - ond clywed. A dawnsio.
View Article  Bendigedig - Scrabble yn Gymraeg
Ar y BBC, mae Scrabble wedi cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg. Ffantastig! Dw i rili rili eisiau un... a phobl i chwarae efo. Wel, nawr dw i'n byw yn Llundain unwaith eto, dw i'n gallu rhoi galw i fy ffrindiau o Gymru. Jyst rhaid imi ffeindio amser... Esgus crap iawn, on dydy? Sori.
View Article  Problem bach
Dydd Sul, felly dydd teledu. Ond fydda i ddim yn dysgu unrhywbeth o gwbl os dw i'n blogio yn lle canolbwyntio. Merch ddrwg ydw i.
View Article  Y Beatles
Caneuon y Beatles yn y Gymraeg. Pam, Duw? Pam? (Diolch Richard.)
View Article  Bit.Torrent Cymraeg?
O'n i'n jyst meddwl... oes 'na bit.torrents am raglenni Cymraeg o gwbl? Petha fel Mapio'r Byd neu'r Celtaidd? Neu, mewn ffaith, unrhywbeth?
View Article  Dw i eisiau Sky+
Llynedd, pan o'n i'n byw yn fflat fy ffrind Svet, des i arfer i ddefnyddio Sky+ i recordio'r teledu. Mae'n fendigedig - ti'n jyst setio'r peth i recordio rhaglen neu holl gyfres, ac mae yn. Jyst fel 'na. Dim ffys. Dim problem. Gwylies i fwy o deledu Cymraeg wedyn na'r holl flwyddyn o'r blaen, jyst o achos Sky+. Mae 'na lawer sy'n cael ei ddarlledu ar S4C mod i'n hoffi gwylio, ond mae'n cael ei ddarlledu yn y noson yn aml, ar ôl dw i wedi mynd i gysgu. (Ha! Dw i'n meddwl fod 'na lot mod i'n anghofio gwylio, a ddweud y gwir.)

Yn diweddar, dw i wedi bod gwylio S4C bob p'nawn Sul, achos mae 'na lawer o raglenni da sy'n cael eu ddarlledu, ac efo is-deitlau hefyd. Dw i'n trio gwella fy Ngymraeg, felly mae'n dda iawn imi i wylio'r rhaglenni 'ma, ond sai fo'n haws o lawer i jyst presio botwm a recordio popeth a sdim rhaid i gofio troi'r teledu ymlaen.

O wel. Pan dw i'n gyfoethog.
View Article  Weithiau
Weithiau, dw i eisiau dweud rhwybeth yn gyhoeddus fy mod i ddim yn gallu dweud yn gyhoeddus. Dw i ddim yn gwybod pam. Efallai mae 'na angen i gyffes dwfn yn fy nghalon fi. Dw i wedi sgwennu tri o flog dienw, ond roedd 'na ofn arna i, ofn y sai rhywun yn eu darganfod nhw, felly stopies i nhw i gyd. Mae neb yn ddienw ar y we, nid yn wir. Mae 'na un dal i fynny, rhywle, ond dw i ddim yn postio yna bellach. Yn lle, dw i'n sgwennu negeseon yn Ecto, a dw i'n eu cadw nhw ar fy nghyfrifiadur. Felly dyddiadur personol cudd.

Ond, weithiau, dydy hynny ddim yn ddigon da i mi. Beth wedyn? Be' fedra i wneud wedyn? Mae 'na betha yn fy mhen bod rhaid i mi fynegu rhywle, ond dw i ddim eisiau unrhywun i'w ddarllen nhw. I fod yn mwy drachywir, mae 'na bobl penodol mod i ddim eisiau eu ddarllen nhw. Dyna'r drwg yn y caws.

Felly dyma fy nghyfaddawd. Blogio yn y Gymraeg, fy iaith cudd. Dim ond fi a thi a hanner miliwn o bobl eraill sy'n gallu darllen y peth. Dw i ddim yn siwr os syniad da ydy o ond, wel, 'na ni.

Nawr 'te, beth yw fy mhroblem? Ti'n cofio'r cân Y Teimlad? Dyma fy mhroblem. Dw i wedi cwympo mewn cariad, a dydy o ddim yn hawdd. Dydy cariad ddim yn hawdd erioed, wrth gwrs, ond ar hyn o bryd, mae'n mor annodd, mor stressful. Dw i wedi bod yn siarad â fy ffrindiau am y peth, ond dydy hynny ddim yn helpu. Un dydd, dw i'n hapus, dw i'n sboncio o gwmpas fel Roo, mae'r haul yn sgleinio yn yr awyr clir glas. Y ddydd nesa mae 'na boen dwfn yn fy nghalon, mae 'na ddagrau yn fy llygaid ac dw i'n teimlo'n ddiflas fel Eeyore.

Rhaid imi ddweud, ar ôl cael ei sgwennu fel hyn, mae'n swnio mwy ... normal. Heh.

Gwela, dyma fy mhwynt. Pan dw i'n siarad am y peth efo fy ffrindiau, mae 'na ormod o emosiynau arna i, dw i'n colli fy nghydbwysedd. Pan dw i'n sgwennu, mae'r hollol peth yn swnio mwy normal, llai emosiynol. Rhaid imi agor fy nghalon yn gyhoeddus, achos mae'n rhoi persbectif i mi, ond fedra i ddim sgwennu yn gyhoeddus yn y Saesneg achos bydd o'n gweld. Mae'n lwcus fod o ddim yn siarad Cymraeg, eh?

Eniwei, diolch am dy amser di. Dw i'n teimlo'n well nawr.
Support the Open Rights Group



Search