CnV has been reincarnated at http://chocolateandvodka.com/ Please do not leave comments here - they will not be published.
Login
User name:
Password:
Remember me 
stalker gen

I've now permanently moved my blog over to http://chocolateandvodka.com/ and will no long be updating this version, other than with the occasional summary of new posts. Please do not leave comments here, but instead find the equivalent post on my new site, and comment there instead. Comments left here will not be published, as I'd like to keep things all together on the new installation. Sorry if this is an inconvenience.
Re: Be' i wneud?
by Nic Dafis
[Brên byrp yw hwn...] Wel, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth sy wedi bod ar fy meddwl i ers sbel! Dw i'n credu y peth mwya gall unrhyw unigolyn wneud i hybu blogio yn y Gymraeg yw... aros amdano... blogio, yn y Gymraeg! Mae nifer o weflogiau Cymraeg wedi codi yn diweddar (gweler y rhestr 'ma, a rhoi gwybod os wyt ti'n gwybod am fwy), ond beth sy angen yw mwy o flogiau Cymraeg sy'n cael eu diweddaru. Byddai'n ddigon posibl - 'sai rhywun gyda'r amser i roi i hyn - sefydlu rhyw wasanaeth llety arbennig i weflogiau Cymraeg, rhywbeth tebyg i Blog*Spot, Blogware, Blog City ac yn y blaen. Byddai'n siwr o fod yn ddigon hawdd cael arian gan Fwrdd yr Iaith am wneud rhywbeth fel hyn, ond yn fy marn i byddai hynny yn dinistrio'r peth cyn iddo ddechrau. Does neb sy ddim yn blogio ddim yn blogio achos prinder arian, naci prinder llefydd am ddim i barcio eu blogiau. Prinder awydd yw'r broblem, prinder diddordeb. Fel dyn ni wedi gweld ar maes-e.com, does dim prinder o siaradwyr Cymraeg sy'n fodlon defnyddio'r iaith ar y we. Pam dydy'r bobl yma ddim wedi mynd ati i ddechrau eu gwefannau eu hunain 'te? Safety in numbers? Mae blogio yn y Gymraeg yn gallu bod yn unig iawn, yn enwedig i'r rhai sy'n disgwyl bod yn seren dros nos ar ôl dechrau blog. Mae'n llawer haws postio rhywbeth ar maes-e lle bydd cannoedd o bobl yn ei ddarllen, na i roi fe ar ryw blog di-ar-ffordd ble bydd hanner dwsin yn ymweld bob dydd. Yn y bôn, y broblem yw bod "y we Gymraeg", y rhithfro, beth bynnag, yn rhyw 5 mlynedd tu ôl i'r prif-frwd o'r we. Mae erthyglau yn y cyfryngau Cymraeg dal yn cael eu sgwennu ar "lefel mynediad". Cofiwch, dyn ni'n dal heb bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg, felly does dim syndod bod blogio yn y Gymraeg wedi bod bach yn araf i ffynnu. [Byrp drosodd.]
Post comment:
  Receive comment notifications for this article
Subject: 
Comment: 
Comment verification:

Please enter the text you see inside the graphic to post your comment:
This blog does not allow anonymous comments. Please provide your username and password along with your comment.
Login information:
Username: 
Password: 
If you would like to post contact information on your comment, please enter your information into the optional fields below:
Contact information:
URL:  example: http://yourdomain.com
   
Support the Open Rights Group



Search