Weithiau, dw i eisiau dweud rhwybeth yn gyhoeddus fy mod i ddim yn gallu dweud yn gyhoeddus. Dw i ddim yn gwybod pam. Efallai mae 'na angen i gyffes dwfn yn fy nghalon fi. Dw i wedi sgwennu tri o flog dienw, ond roedd 'na ofn arna i, ofn y sai rhywun yn eu darganfod nhw, felly stopies i nhw i gyd. Mae neb yn ddienw ar y we, nid yn wir. Mae 'na un dal i fynny, rhywle, ond dw i ddim yn postio yna bellach. Yn lle, dw i'n sgwennu negeseon yn Ecto, a dw i'n eu cadw nhw ar fy nghyfrifiadur. Felly dyddiadur personol cudd.
Ond, weithiau, dydy hynny ddim yn ddigon da i mi. Beth wedyn? Be' fedra i wneud wedyn? Mae 'na betha yn fy mhen bod rhaid i mi fynegu rhywle, ond dw i ddim eisiau unrhywun i'w ddarllen nhw. I fod yn mwy drachywir, mae 'na bobl penodol mod i ddim eisiau eu ddarllen nhw. Dyna'r drwg yn y caws.
Felly dyma fy nghyfaddawd. Blogio yn y Gymraeg, fy iaith cudd. Dim ond fi a thi a hanner miliwn o bobl eraill sy'n gallu darllen y peth. Dw i ddim yn siwr os syniad da ydy o ond, wel, 'na ni.
Nawr 'te, beth yw fy mhroblem? Ti'n cofio'r cân Y Teimlad? Dyma fy mhroblem. Dw i wedi cwympo mewn cariad, a dydy o ddim yn hawdd. Dydy cariad ddim yn hawdd erioed, wrth gwrs, ond ar hyn o bryd, mae'n mor annodd, mor stressful. Dw i wedi bod yn siarad â fy ffrindiau am y peth, ond dydy hynny ddim yn helpu. Un dydd, dw i'n hapus, dw i'n sboncio o gwmpas fel Roo, mae'r haul yn sgleinio yn yr awyr clir glas. Y ddydd nesa mae 'na boen dwfn yn fy nghalon, mae 'na ddagrau yn fy llygaid ac dw i'n teimlo'n ddiflas fel Eeyore.
Rhaid imi ddweud, ar ôl cael ei sgwennu fel hyn, mae'n swnio mwy ... normal. Heh.
Gwela, dyma fy mhwynt. Pan dw i'n siarad am y peth efo fy ffrindiau, mae 'na ormod o emosiynau arna i, dw i'n colli fy nghydbwysedd. Pan dw i'n sgwennu, mae'r hollol peth yn swnio mwy normal, llai emosiynol. Rhaid imi agor fy nghalon yn gyhoeddus, achos mae'n rhoi persbectif i mi, ond fedra i ddim sgwennu yn gyhoeddus yn y Saesneg achos bydd o'n gweld. Mae'n lwcus fod o ddim yn siarad Cymraeg, eh?
Eniwei, diolch am dy amser di. Dw i'n teimlo'n well nawr.
|
||||||
|
Login
stalker gen
![]() I've now permanently moved my blog over to http://chocolateandvodka.com/ and will no long be updating this version, other than with the occasional summary of new posts. Please do not leave comments here, but instead find the equivalent post on my new site, and comment there instead. Comments left here will not be published, as I'd like to keep things all together on the new installation. Sorry if this is an inconvenience. |
Comments
Re: Weithiau
by
Emlyn
on Fri 01 Apr 2005 03:47 AM BST | Profile | Permanent Link
Y broblem yw, ti byth yn gwybod pwy sy'n deall Cymraeg... Ta beth, rwy'n cytuno yn llwyr - rwy hefy yn canlyn, a mae'n jyst fel ti wedi disgrifio! Hollol normal a dim byd mawr...
Re: Weithiau
by
Crw
on Sat 02 Apr 2005 12:20 AM BST | Profile | Permanent Link
I don't understand, but I do.
Re: Weithiau
by
Anonymous
on Wed 06 Apr 2005 03:05 PM BST | Permanent Link
spørsmålet er hvorfor det er viktig å fortelle flere når en er forelsket? Hvorfor skulle det gi perspektiv? Hva er ditt behov? Hvorfor finnes det de som vil holde sin forelskelse hemmelig? Kan en se at noen er forelsket uten at de sier det? - nei, nei, du trenger ikke å svare på dette, ikke tenke over det en gang, bare vær forelsket og nyt det
Re: Re: Weithiau
by
Suw Charman
on Thu 07 Apr 2005 10:11 AM BST | Profile | Permanent Link
All's well that ends well, I always say. Mae popeth yn iawn, ac dw i'n mwynhau bod mewn cariad. Dw i'm eisiau anyleisio unrhybeth bellach. Dw i'm eisiau ffycio'r peth i fyny. ;-)
|
|||||
